Skip to main content

Nid yw tîm pêl-droed Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd ers 1958, ond maen nhw wedi dychwelyd yn ystod cyfnod pwysig i diwylliannol Gymru a’r iaith Gymraeg

Chwaraewr pêl-droed Cymru Gareth Bale, chwith, yn brwydro am reolaeth o’r bêl yn erbyn Axel Witsel o Wlad Belg mewn gêm yng Nghaerdydd ym mis Mehefin. Bydd Bale yn un o sêr tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 yn Doha, Qatar.John Sibley/Action Images via Reuters

This Welsh-language article is also available in English.


Y tro diwethaf i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd, roedd y wlad yn dal dan reolaeth Llundain, roedd baner Canada’n cynnwys Jac yr Undeb ac roedd Dwight D. Eisenhower yn y Tŷ Gwyn. Roedd hyn nid yn unig cyn geni Gareth Bale — seren yr asgell sydd wedi helpu Cymru i’w gogoniant diweddar — ond cyn geni ei fam hefyd.

Am chwe degawd, bu cefnogwyr Cymru’n dioddef anobaith a thor-calon, gan ddod o fewn trwch blewyn i gyrraedd twrnameintiau mawr, ond byth yn cyrraedd y nod. Yna, daeth 2015, a Chymru’n esgyn yn stratosfferig drwy’r rhengoedd o’r 117ed safle yn y byd i’r nawfed, gan arwain at gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop 2016.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, hawliodd Cymru ei lle yn Ewro 2020. Yna, ar 5 Mehefin, 2022, i gyfeiliant byddarol y dorf yng Nghaerdydd, cymhwysodd tîm Rob Page ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

“Dw i ddim yn credu mai gor-ddweud yw dweud mai dyma genhedlaeth aur pêl-droed Cymru,” meddai Tom Coleman, sy’n sgwennwr chwaraeon i Wales Online. “Ni fu pethau erioed mor dda â hyn.”

Plentyn yn chwifio baner Cymru yng Nghastell Caerdydd cyn ymweliad gan King Charles III.Molly Darlington/Reuters

Yn ogystal â'r llawenydd pur, daw’r gwychder hwn yn y gamp yn ystod cyfnod diwylliannol pwysig i Gymru.

Yn gyntaf, daeth trydedd gyfres rhaglen “The Crown” ar Netflix, a oedd yn cynnwys sawl pennod wedi’u gosod yng Nghymru, gan gynnwys rhannau’n gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg. Nawr, mae “Welcome to Wrexham,” rhaglen ddogfen FX yn adrodd hynt a hanes clwb pêl-droed Wrecsam, a brynwyd yn ystod y pandemig gan yr actorion Rob McElhenney a Ryan Reynolds.

“Mae’r ddau wedi bod yn ceisio dyrchafu’r iaith go iawn, a jest atgyfnerthu’r neges, wyddoch chi, nad Lloegr yw Cymru: mae’n wlad ar wahân, mae ganddi ddiwylliant ar wahân ac mae ganddi iaith ar wahân,” meddai Maxine Hughes, newyddiadurwr wedi’i lleoli yn Washington D.C. sy’n gweithio fel dehonglydd a chynhyrchydd ar y rhaglen.

Am bron i ganrif, roedd y Gymraeg yn cael ei hatal yn weithredol gan lywodraeth Prydain, a hunaniaeth Gymreig yn cael ei gwthio i’r cyrion. Dechreuodd hyn newid yn y 1980au — ar ôl degawdau o drefnu ac ymgyrchu — ac yn 1997, pleidleisiodd Cymru o drwch blewyn dros senedd ddatganoledig. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi o tua 500,000 i bron i filiwn heddiw, newid rhyfeddol i iaith a oedd unwaith yn cael ei gweld fel un a oedd ar ei ffordd i ddifodiant.

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cofleidio pwysigrwydd cynyddol y Gymraeg, gan glymu ei hun at hunaniaeth Gymreig mewn ffordd nad yw tîm rygbi’r wlad — sydd yn wrthrychol yn llawer mwy llwyddiannus, ers llawer hirach — erioed wedi gwneud.

Mae cefnogwyr yn ymateb yn ystod gêm rygbi rhwng Cymru a’r Ariannin yng Nghaerdydd ar Dachwedd 12. Mae tîm pêl-droed Cymru wedi rhagori ar yr ochr rygbi genedlaethol wrth gofleidio’r Gymraeg.Rebecca Naden/Reuters

Dywedodd Hughes y dylid rhoi llawer o’r clod am hyn i Noel Mooney, pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers 2021. “O Iwerddon mae Noel yn dod ac mae’n siarad Gwyddeleg, felly daeth i’r swydd gyda safbwynt gwahanol, gyda gwerthfawrogiad o’r iaith, y diwylliant, y cenedlaetholdeb, mewn ffordd na welodd Cymru o’r blaen,” meddai.

Dan arweiniad Mooney, mae Cymru wedi newid o ddefnyddio “Wales” i “Cymru” ar ddillad y tîm ac wedi mabwysiadu “Yma O Hyd” fel cân swyddogol ymgyrch Cwpan y Byd. Mae anthem genedlaetholgar Dafydd Iwan, y canwr gwerin digyffelyb, yn dathlu’r ffaith, “er gwaethaf pawb a phopeth, rydyn ni yma o hyd.”

Fel yr awgryma geiriau cân Iwan, mae hunaniaeth Gymreig yn aml wedi cofleidio statws y wlad fel ‘underdog’ dan ormes, ond does dim byd tebyg i ennill ar gyfer deffro angerdd y bobl. Ac mae Tîm Cymru wedi sicrhau buddugoliaethau toreithiog.

Ym mis Awst 2011, roedd Cymru yn safle 117 yn y byd, y tu ôl i Grenada, cenedl o ddim ond 125,000 o bobl. Roedd yn destun cywilydd i Gary Speed, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a oedd wedi cymryd yr awenau fel hyfforddwr ychydig fisoedd ynghynt, er bod y rhan fwyaf o’r colli wedi digwydd dan ei ragflaenwyr.

Nid oedd y safle ychwaith yn adlewyrchiad teg o’r newidiadau yr oedd Speed yn eu cyflwyno, megis dyrchafu Aaron Ramsey, a oedd yn ddim ond 20 mlwydd oed ar y pryd, yn gapten. Erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn honno, roedd Cymru wedi dringo i 48ain ac wedi ennill gwobr “Best Mover” gan FIFA. Ond ni fyddai Speed yn cael rhannu’r bri hwn: cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref ar Dachwedd 27, 2011. Nid yw achos y farwolaeth wedi’i gadarnhau’n llawn.

“Mae chwaraewyr o gyfnod Gary Speed a’i ddylanwad ar y tîm o ran lle’r ydyn ni nawr wedi bod yn anhygoel,” meddai Paul Corkery, pennaeth Football Supporters’ Association Cymru.

Joe Allen o Gymru yn herio Adam Nagy o Hwngari mewn gêm yn Budapest yn 2020.Tibor Illyes/MTI via AP

Ni ddaeth llwyddiant ar unwaith; cyn hyn, dim ond ambell seren dalentog fu gan Dîm Cymru ar unrhyw adeg — Ryan Giggs, Ian Rush, Speed ei hun — ond yn fwyaf sydyn, dyma garfan genedlaethol yn llawn sêr. Ochr yn ochr â Ramsey roedd pêl-droedwyr yr Uwch Gynghrair, Joe Allen a Ben Davies, a Bale, a ystyrir yn eang fel un o asgellwyr gorau’r byd.

Cafodd llawer o chwaraewyr eu darganfod yn gyntaf gan Brian Flynn, cyn-reolwr tîm dan-21 Cymru, a gafodd y clod gan Coleman am “daflu’r rhwyd yn llawer ehangach o ran talent,” gan ddod o hyd i chwaraewyr ar draws Prydain a thu hwnt a oedd yn gymwys i gynrychioli Cymru.

Erbyn mis Medi 2015, ar ôl buddugoliaethau lu, roedd Cymru wedi codi i’w safle uchaf erioed, nawfed yn y byd. Fel pe na bai hyn yn ddigon melys, roedd Lloegr, archelyn tîm Cymru ym myd pêl-droed, yn 10fed yn y byd.

Mae llwyddiant yn meithrin llwyddiant, ac amlwg yw’r hyder sy’n llifo drwy’r garfan, gyda chwaraewyr yn dangos gwir falchder mewn chwarae dros Gymru, yn hytrach na rhyw deimlad o ddyletswydd amharod a deimlai rhai oedd gan Giggs ac eraill o’i genhedlaeth. Roedd Bale hyd yn oed wedi ennyn dicter ymysg cefnogwyr Real Madrid am ymddangos fel pe bai’n ffafrio ei gyfrifoldebau rhyngwladol dros y rhai a oedd ganddo i’r tîm La Liga.

“Mae chwarae dros Gymru yn cael ei weld fel pinacl i lot o’r chwaraewyr hyn, ac mae’n amlwg ar y cae,” meddai Coleman.

Yn Ewro 2016, cyrhaeddodd Tîm Cymru’r rownd gynderfynol. Colli 2-0 i Bortiwgal wnaethant, ond roedd yn uchafbwynt newydd i bêl-droed Cymru. Dilynwyd hyn gan gymhwyso ar gyfer Ewro 2020 ac yna Cwpan y Byd 2022, campau na ellid dychmygu eu cyflawni ddim ond ychydig flynyddoedd ynghynt. “Wnaethon ni ddim cymhwyso i dwrnamaint am flynyddoedd maith,” meddai Corkery. “Roedd mynd i wylio Cymru’n arfer bod yn dipyn o jôc, fe fydden ni’n colli 6-0 i Slofacia ac yn chwerthin drwy ein colled, nawr rydyn ni’n disgwyl ennill.”

Posteri o Gareth Bale a welwyd yn Doha ar Dachwedd 13, wythnos cyn i Gwpan y Byd ddechrau.PAUL ELLIS/AFP via Getty Images

Ni wyddom eto pa mor bell y bydd Cymru’n ei gyrraedd yn Qatar, a rhybuddiodd Coleman fod y wlad yn debygol o wynebu “cyfnod main ar ochr arall Cwpan y Byd,” wrth i chwaraewyr fel Bale a Ramsey ymddeol o’u dyletswyddau rhyngwladol.

Ond mae pêl-droed Cymru gryn dipyn yn gyfoethocach nag yr oedd o’r blaen — roedd cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn unig yn golygu bonws o $6.2 miliwn i ariannu’r gêm ar lawr gwlad ­­— ac mae diwygiadau i hyfforddiant a sgowtio y mae rheolwyr olynol ar ôl cyfnod Speed wedi’u cyflwyno eisoes yn talu ar eu canfed.

“Mae set-up tîm Cymru’n gyffredinol yn llawer mwy proffesiynol nag ydoedd yn y 1990au,” meddai Coleman. “Mae yna rai ifanc addawol yn dod drwodd, efallai bod angen peth amser arnyn nhw i ymsefydlu, ond os ydych chi’n sôn am lwyddiant o ran twf pêl-droed Cymru, dim ond parhau wnaiff hynny.”

I gefnogwyr cadair freichiau a ddechreuodd dalu sylw dim ond ar ôl Ewro 2016, efallai bod siom ar y gorwel, yn enwedig gan fygythiad y gêm Lloegr v. Cymru yn Qatar. Ond meddai Coleman, “mewn sawl ffordd, bron nad oes ots, mewn gwirionedd.”

“Yn amlwg mae cefnogwyr Cymru eisiau llwyddiant ac maen nhw eisiau eu tîm mewn twrnameintiau mawr, ond yn enwedig i’r cenedlaethau hŷn, mae’r ffaith syml ein bod ni’n sôn am bêl-droed Cymru heb iddo fod yn jôc bellach yn arwyddocaol,” meddai. “Mae pêl-droed Cymru wedi bod yn ffactor enfawr wrth helpu i gryfhau Cymru fel gwlad gyda’i hunaniaeth ei hun, ei diwylliant ei hun a’i llais ei hun.”

Translated from English into Welsh by James Griffiths and edited by Gwenlli Haf Evans.